RIDDOR
Reporting of Injuries, Diseases and Dangerous Occurrences Regulations 1995
Pan fyddwn yn ymgymryd ag ymweliad rheolaidd iechyd a diogelwch, un o'r dogfennau iechyd a diogelwch cyntaf y byddaf yn gofyn i'w weld yw eich llyfr cofnod damweiniau.
Bydd y llyfr yn darparu gwybodaeth werthfawr ar y mathau o ddamweiniau, a pha mor aml y bu iddynt ddigwydd yn eich eiddo busnes, ac mi fydd hefyd o gymorth i chi nodi unrhyw dueddiadau megis llithro neu dripio rheolaidd ayb.
Bydd llyfr cofnod damweiniau a gwblhawyd yn gywir hefyd yn darparu cyfoeth o wybodaeth ar sut rydych chi wedi delio â'r ddamwain. Edrychir a fyddwch chi wedi edrych am achos y ddamwain er mwyn osgoi ail ddamwain o'r un fath neu a ydych chi wedi clustnodi neu ddarparu hyfforddiant ychwanegol i weithwyr?
Os bydd digwyddiad mwy difrifol neu beryglus, bydd angen i chi fel cyflogwr gofnodi'r ddamwain mewn modd mwy ffurfiol, am ei fod yn bosib y bydd yn ddamwain 'RIDDOR' y bydd angen ei nodi o dan Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995.
Yn y misoedd diwethaf cyflwynwyd nifer o newidiadau i'r ffordd y caiff digwyddiadau ac anafiadau RIDDOR eu reportio i'r HSE (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch).
O 12fed Medi 2011, dim ond anafiadau mawr neu ddigwyddiadau angheuol all gael eu reportio ar y ffôn i Ganolfan Gyswllt yr HSE (Rhif ffôn. 0845 300 9923). Bydd yn rhaid i bob digwyddiad neu anaf arall sy'n ymwneud â gwaith gael eu reportio bellach drwy un o'r saith ffurflen sydd ar lein ar wefan yr HSE - www.hse.gov.uk/riddor
Ar 30ain Medi, daeth Llinell gwybodaeth HSE sef 'infoline' i ben a oedd yn darparu gwasanaeth sylfaenol i bobl. Mae gwefan yr HSE wedi profi i fod yn boblogaidd iawn gyda phobl a oedd yn chwilio am wybodaeth iechyd a diogelwch. Yn sgil gwelliannau amrywiol i wefan HSE mi fydd o gymorth wrth ateb unrhyw gwestiynau all fod gennych parthed materion iechyd a diogelwch.
O 6ed Ebrill, yn amodol ar gymeradwyaeth Seneddol, bydd y gofyniad reportio dros dri diwrnod yn newid. Bydd yn rhaid i Gyflogwyr â chyfrifoldebau o dan RIDDOR gadw cofnod o bob niwed dros dri diwrnod fodd bynnag bydd y gofyniad reportio yn cynyddu o dros dri diwrnod i dros saith niwrnod yn dilyn ei gilydd o anallu (heb gyfrif y diwrnod y bu i'r damwain ddigwydd). Bydd yr amser cau ar gyfer reportio niwed saith niwrnod i'r awdurdod gorfodi priodol yn cynyddu i 15 niwrnod o ddyddiad y ddamwain.
Os ydych chi'n parhau i fod yn ansicr parthed eich goblygiadau yn y maes yma y mae croeso i chi gysylltu â Nhîm Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir Ceredigion ar rif ffôn. 01545 572105.