Cynllun Trwyddedu Gorfodol sy’n dod: Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Rhan 4: Triniaethau Arbennig
Mae'r cysylltiadau cychwynnol sydd wedi bod ag ymarferwyr wedi cadarnhau mai ychydig o ymwybyddiaeth sydd o oblygiadau’r cynllun trwyddedu gorfodol a fydd yn cael ei gyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Bydd y cynllun trwyddedu gorfodol yn cynnig tegwch i ymarferwyr sy'n gweithredu yng Nghymru a bydd yn sicrhau dull mwy cyson a chadarn o orfodi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg i iechyd sy'n gysylltiedig â'r arferion hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw sy’n sôn am brif ofynion y cynllun trwyddedu arfaethedig. Gellir lawr lwytho'r canllaw o adran ‘i’w lawr lwytho’ y dudalen hon.