Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Yr alwad olaf am enwebiadau ar gyfer gwobrau cymunedol a busnes Ceredigion
6ed Tachwedd 2024
Wythnos yn unig sydd gan fusnesau, prosiectau cymunedol ac entrepreneuriaid yng Ngheredigion i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2024 y mae disgwyl mawr amdanynt.
Mae’r ceisiadau’n cau ddydd Mercher 13 Tachwedd, gyda’r gwobrau’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.
Mae’r gwobrau’n cynnwys 12 categori, yn amrywio o arloesi yn y gymuned, i gydnabod entrepreneuriaid ifanc, y diwydiant twristiaeth, digwyddiadau llwyddiannus, a busnesau sy’n cefnogi’r Gymraeg.
Wrth siarad am yr alwad olaf am enwebiadau, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio:
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r ymateb anhygoel a'r safon uchel o geisiadau rydyn ni wedi'u derbyn hyd yn hyn. Mae'r sir yn gartref i fusnesau rhagorol, entrepreneuriaid ifanc, a phrosiectau cymunedol bywiog, ac mae'r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan gwych i ddathlu'r gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud.”
“Byddwn yn sicr yn annog grwpiau i ystyried ymgeisio, neu enwebu rhywun maen nhw’n credu sy’n haeddiannol, gan fod hwn yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu rhagoriaeth yng Ngheredigion.”
Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch gymunedol gyda’r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, tra’n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn cryfhau’r gymuned.
Yn y cyfamser, mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu i hybu’r economi a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mae pobl a mentrau’n eu hwynebu, gyda ffocws ar ddatblygu cyfleoedd i helpu’r economi i dyfu a ffynnu.
Mae'r rhestr lawn o gategorïau a meini prawf cymwys i'w gweld ar tudalen Gwobrau Caru Ceredigion. Bydd y beirniadu’n digwydd ym mis Tachwedd gan banel o feirniaid arbenigol, gyda rhestr fer yn cael ei chyhoeddi cyn i’r enillwyr gael eu datgelu mewn seremoni ar 12 Rhagfyr 2024.
Lawnsio Gwobrau Caru Ceredigion
14eg o Hydref 2024
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw am geisiadau wrth iddynt baratoi ar gyfer dathliad o fusnesau a chymunedau'r sir.
Bydd Gwobrau Caru Ceredigion 2024, a gynhelir ym mis Rhagfyr, yn cydnabod cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.
Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau bellach ar agor ac yn cynnwys 12 categori, yn amrywio o ddatblygiadau arloesol yn y gymuned, megis dod o hyd i ddefnydd newydd i hen adeiladau, hyd at wobrau sy'n cydnabod entrepreneuriaid ifanc, digwyddiadau llwyddiannus a'r diwydiant twristiaeth. Mae croeso i ymgeiswyr o fentrau bach, i fusnesau mwy, sefydliadau dielw, elusennau a grwpiau cymunedol fel ei gilydd, fod yn rhan o ddathliad o'r rhai sy'n helpu i wneud Ceredigion yn lle gwell a mwy llewyrchus i fyw.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch sy'n cael ei gyrru gan y gymuned gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, tra'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella'r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cryfhau'r gymuned.
Yn y cyfamser, mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu i hybu'r economi a mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu pobl a mentrau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i helpu'r economi i dyfu a ffynnu.
Er bod gan fusnesau newydd rhai o'r cyfraddau goroesi gorau ledled Cymru, ac mae gan weithlu Ceredigion sgiliau a chymwysterau uwch na'r cyfartaledd, ynghyd â sector gwybodaeth ffyniannus trwy ddwy brifysgol, mae rhai heriau allweddol hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys denu busnesau newydd, creu swyddi, a darparu cyfleoedd i bobl iau aros yn y sir a gwrthdroi'r duedd o swyddi sy’n ennill tâl is o'i gymharu â gweddill Cymru.
Wrth edrych ymlaen at y gwobrau, a siarad am ei falchder am y gwaith gwych sy'n digwydd ar draws busnesau a chymunedau Ceredigion, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Rydym yn falch iawn ac yn edrych mlaen i gynnal ein Gwobrau Caru Ceredigion cyntaf erioed i ddathlu llwyddiant a’r hyn busnesau, entrepreneuriaid a chymynedau ar draws y Sir. Mae’n gyfle i ni longyfarch a dathlu llwyddiant, talent, creadigrwydd ac arloesedd yng Ngheredigion. Rwy’n annog i bawb fanteisio ar y cyfle i enwebu’r rhai sydd wir yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymunedau fel y gallwn cydnabod a rhoi clod am eu gwaith eithriadol o fewn y sir.”
Mae'r gwobrau'n rhad ac am ddim i ymgeisio. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mercher 13eg o Dachwedd, 2024. Cynhelir y beirniadu ym mis Tachwedd gan banel o feirniaid arbenigol, gyda rhestr fer yn cael ei chyhoeddi cyn i'r enillwyr gael eu dadorchuddio yn y seremoni ar 12fed o Ragfyr 2024.