Meini Prawf y Barnwyr
Mae’n rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 13 Tachwedd 2024.
Bydd y beirniaid yn llunio rhestr fer o geisiadau ar gyfer pob categori (uchafswm o 3 fesul categori). Bydd y rhain wedyn yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol ar y noson ar gyfer y gwobrau unigol.
Bydd y ceisiadau ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi erbyn 20 Tachwedd 2024 fan bellaf.
Bydd disgwyl i bob cynnig ar y rhestr fer recordio fideo byr iawn fel rhan o’u cais (gellir helpu gyda hyn).
Bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 12 Rhagfyr 2024, ynghyd â phrif enillydd Gwobrau Caru Ceredigion.
Dim ond gan fusnesau/sefydliadau sy'n bodloni’r Cydymffurfiad Cyfreithiol a Thrwyddedu cyfredol a pherthnasol y derbynnir ceisiadau. Mae'r beirniaid yn cadw'r hawl i wrthod cynnig os nad oes modd cadarnhau hyn yn eu barn nhw.
Rhaid i fusnesau sy'n gweini bwyd fod â sgôr hylendid bwyd o dri allan o bwmp pump o leiaf. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod cais ar unrhyw adeg cyn y seremoni wobrwyo os na chaiff y gofyniad sylfaenol hwn ei fodloni. Gwneir eithriad ar gyfer busnesau newydd nad ydynt wedi cael eu graddio eto.
Croesewir unrhyw wybodaeth ychwanegol megis cynlluniau busnes, tystlythyrau, ffotograffau a allai gryfhau eich enwebiad.
Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol ar gyfer pob categori.