Gwobr Prentis y Flwyddyn
Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n dilyn prentisiaeth gyda busnes sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd ar ei hyfforddiant.
Gall y prentis ei hun, y cyflogwr neu ddarparwr y brentisiaeth gwblhau a chyflwyno ceisiadau. Mae'r categorïau prentisiaid yn gofyn am nodyn cyfeirio/cydnabyddiaeth - y cyflogwr sy’n llenwi'r adran hon ar gyfer y prentis sy'n enwebu ei hun.
Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:
- Cwblhau prentisiaeth yn ddiweddar (yn y 12 mis diwethaf) gyda busnes yng Ngheredigion
- Caffael a chymhwyso datblygiad personol/proffesiynol yn effeithiol i'ch rôl
- Cael effaith gadarnhaol ac ysbrydoli eraill a/neu arddangos gwaith tîm a chydweithio effeithiol
Bydd angen datganiad ategol gan eich cyflogwr