Gwobr Busnes Cymunedol y Flwyddyn
Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw sefydliad elusennol neu fenter gymunedol/cymdeithasol sy’n masnachu yng Ngheredigion â diben cymdeithasol a/neu sail ddi-elw sydd wedi cael effaith werthfawr ar gymunedau Ceredigion. Gallai hyn fod trwy ddarparu cymorth, gwybodaeth neu allgymorth a all fod yn ariannol neu fel arall.
Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:
- Cael effaith gadarnhaol ar gymunedau ar draws y sir
- Creu swyddi newydd
- Cynorthwyo pobl i ennill sgiliau newydd
- Gweithio gyda phobl ddifreintiedig
- Cyfrannu at adfywio
- Pe bai'r sefydliad yn peidio â bod, pa mor arwyddocaol fyddai'r effaith?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.
Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.