Gwastraff Masnachol ac Annomestig
O’r 1af o Ebrill 2024 bydd Casgliadau Gwastraff Masnachol yn newid o ganlyniad i Reoliadau a Gofynion Gwahanu Gwastaff (Cymru) 2023, mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth gall Cyngor Sir Ceredigion ei ddarparu yma:
Atgoffir busnesau fod ganddynt oll Ddyletswydd Gofal i sicrhau eu bod yn gwaredu eu gwastraff mewn modd diogel a chyfreithlon drwy ddefnyddio Cludwyr Gwastraff trwyddedig. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn nodi na fydd Gwastraff Masnachol yn cael ei dderbyn yn Safleoedd Gwastraff Domestig y Cyngor.
Mae deddfwriaeth newydd wedi dod i rym ac mae'n ofynnol i bob busnes wahanu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu. Am fwy o wybodaeth gweler Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Cyngor yn gofyn i’w holl gwsmeriaid ddefnyddio’r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael. Gwastraff na ellir ei ailgylchu yn unig fydd yn cael ei gasglu mewn cynhwysyddion ar gyfer gwastraff gweddilliol.
Meysydd Carafanau - Nodwch os gwelwch yn dda
Mae ffioedd gwastraff masnachol yn berthnasol i’r carafanau sy’n cael eu defnyddio fel rhan o fusnes sy’n darparu llety hunanarlwyo neu i’r carafanau na chaniateir i neb fyw ynddynt trwy gydol y flwyddyn yn rhinwedd trwydded neu ganiatâd cynllunio. Dim ond gwastraff o garafanau y mae rhywun yn byw ynddynt yn barhaol a lle y mae’r deiliad yn talu Treth Cyngor domestig sy’n cael ei ddynodi yn wastraff domestig.
Mae gwasanaeth casglu ailgylchu a gwastraff gweddilliol ar gael oddi wrth Cyngor Sir Ceredigion, gweler isod am fwy o fanylion. Ni fydd hawl gan unrhyw gwsmer i dderbyn casgliad ar gyfer gwastraff na eillir ei ailgylchu yn unig.
Ailgylchu Papur a Cherdyn
Cesglir papur a chardbord yn gymysg mewn bag glas bob pythefnos.
- Mae bagiau glas ar gael am gost o £5.000 y bag
Ailgylchu Plastig, Metel a Chartonnau
Cesglir plastig, metel a chartonnau yn gymysg mewn bag coch bob pythefnos.
- Mae bagiau coch ar gael am gost o £5.000 y bag
Gwastraff Bwyd
Mae yna ddau opsiwn ar gyfer casglu gwastraff bwyd, mae'r ddau opsiwn ar gael fel gwasanaeth wythnosol.
Bin Gwastraff bwyd 140 litr - Darperir bin gwastraff bwyd 140 litr (bydd y bin cyntaf yn cael ei ddarparu am ddim a chodir tâl o £46.00 am bob bin ychwanegol). Mae’r Cyngor yn codi tâl am gasglu’r gwastraff.
- Bydd angen prynu tagiau gwastraff bwyd o flaen llaw, a’u clymu at ddolen y bin gwastraff bwyd 140 litr pan fyddwch yn ei roi allan i’w gasglu. Pris tag gwastraff bwyd yw £6.00 yr un. Bydd angen defnyddio tag Lelog ar gyfer bob casgliad (mae hyn yn berthnasol ar gyfer Casgliadau Gwastraff Masnachol a Chasgliadau Gwastraff Domestig y gellir codi tâl amdano).
Bin Gwastraff bwyd 23 litr - Darperir bin gwastraff bwyd 23 litr (bydd y bin cyntaf yn cael ei ddarparu am ddim a chodir tâl o £6.00 am bob bin ychwanegol). Mae’r Cyngor yn codi tâl am gasglu’r gwastraff.
- Bydd angen prynu tag gwastraff bwyd o flaen llaw, a’u clymu at ddolen y bin gwastraff bwyd 23 litr pan fyddwch yn ei roi allan i’w gasglu. Pris tag gwastraff bwyd yw £60.00 yr un. Dyma'r gost am flwyddyn o wasanaeth. Bydd tag yn cael ei ddarparu a ni ddylid tynnu'r tag oddi ar y bin am y flwyddyn ariannol gyfan(mae hyn yn berthnasol ar gyfer Casgliadau Gwastraff Masnachol a Chasgliadau Gwastraff Domestig y gellir codi tâl amdano).
Ailgylchu Gwydr
Mae yna ddau opsiwn ar gyfer ailgylchu gwydr, mae'r ddau opsiwn ar gael fel gwasanaeth bob tair wythnos.
Bin Gwydr 240 litr - Darperir bin gwydr 240 litr (bydd y bin cyntaf yn cael ei ddarparu am ddim a chodir tâl o £106.00 am bob bin ychwanegol). Mae’r Cyngor yn codi tâl am gasglu’r gwastraff.
- Bydd angen prynu tagiau ailgylchu gwydr o flaen llaw, a’u clymu at ddolen y bin gwydr 240 litr pan fyddwch yn ei roi allan i’w gasglu. Pris tag ailgylchu gwydr yw £10.00 yr un. Bydd angen defnyddio tag Aqua ar gyfer bob casgliad (mae hyn yn berthnasol ar gyfer Casgliadau Gwastraff Masnachol a Chasgliadau Gwastraff Domestig y gellir codi tâl amdano).
Bin Gwydr 40 litr - Darperir bin gwydr 40 litr (bydd y bin cyntaf yn cael ei ddarparu am ddim a chodir tâl o £6.00 am bob bin ychwanegol). Mae’r Cyngor yn codi tâl am gasglu’r gwastraff.
- Bydd angen prynu tag ailgylchu gwydr o flaen llaw, a’u clymu at ddolen y bin gwydr 40 litr pan fyddwch yn ei roi allan i’w gasglu. Pris tag ailgylchu gwydr yw £60.00 yr un. Dyma'r gost am flwyddyn o wasanaeth. Bydd tag yn cael ei ddarparu a ni ddylid tynnu'r tag oddi ar y bin am y flwyddyn ariannol gyfan(mae hyn yn berthnasol ar gyfer Casgliadau Gwastraff Masnachol a Chasgliadau Gwastraff Domestig y gellir codi tâl amdano).
Gwastraff Gweddilliol (na ellir ei ailgylchu)
Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu sbwriel masnachol; mae Gwastraff Masnachol yn cael ei gasglu mewn bagiau oren neu gallwch roi'r gwastraff mewn bin olwynog os y dymunwch (Bydd angen i chi ddarparu'r bin olwyn eich hunan). Bydd angen tag ar gyfer bin olwyn ar gyfer pob casgliad. Mae cyfradd ar gyfer a Gwastraff Domestig y codir tâl amdano, ceir mwy o wybodaeth am hyn isod. Mae’r rhain yn wasanaethau casglu bob tair wythnos. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyngor.
Codir tâl fel a ganlyn:
Gwastraff Masnachol
- Mae bagiau Oren ar gael am gost o £12.00 y bag
- Mae tagiau Arian ar gyfer biniau 240L ar gael ar gost o £45.00 yr un
- Mae tagiau Aur ar gyfer biniau 1100L ar gael ar gost o £160.00 yr un
Dynodir Gwastraff Domestig y codir tâl amdano fel a ganlyn:
- Siopau Elusen Cofrestredig (neu gwmni buddiant cymunedol/sefydliad di-elw) sy’n gwerthu nwyddau a roddwyd iddynt ac a ddaeth yn wreiddiol o eiddo domestig
- Hostel breswyl sy’n cynnig llety yn unig i bobl sydd heb gyfeiriad parhaol arall neu sy’n methu byw yn eu cyfeiriad parhaol (e.e. llety neu loches mewn argyfwng)
Gwastraff Domestig y Codir Tâl amdano
- Mae bagiau Oren ar gael am gost o £6.00 y bag
- Mae tagiau Arian ar gyfer biniau 240L ar gael ar gost o £25.00 yr un
- Mae tagiau Aur ar gyfer biniau 1100L ar gael ar gost o £90.00 yr un
Nid yw TAW yn berthnasol i’r cyfraddau uchod.
Rhaid talu am Gasgliadau Gwastraff Masnachol a Gwastraff Cartref y codir tâl amdano cyn dosbarthu bagiau/tagiau oni bai eich bod yn derbyn anfoneb am y pryniant. Er mwyn medru talu drwy anfoneb a thalu â cherdyn, rhaid i'r archeb fod o leiaf £50.00. Nid yw talu wrth ddosbarth yn opsiwn.
Gellir archebu bagiau neu dagiau Gwastraff Masnachol yn trwy gysylltu â'r Cyngor ar 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk yn unig.