Grantiau Cymunedol
Nodwch os Gwelwch yn Dda - Mae'r Gronfa Gyfalaf ar gau ar hyn o bryd.
Cynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion - gwybodaeth am y grantiau a’r proses ymgeisio.
Y nod cyffredinol:
- Pwrpas y cynllun yw cynyddu’r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn Ceredigion
- Trwy ddyfarnu cyllid grant, ein nod yw sicrhau bod y broses ymgeisio yn rhwydd i ddeall ac yn glir i bob ymgeisydd, tra hefyd ceisio sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei chasglu i hyrwyddo gwerth am arian, tegwch wrth wneud penderfyniadau, atebolrwydd y cyhoedd ac osgoi twyll neu gamddefnyddio arian, gan adlewyrchu’r safon uchaf o reolaeth ariannol y sector gyhoeddus
Y Cyllid sydd ar gael:
- Mae arian grant cyfalaf a pholisi ar gael drwy Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion
- Bydd un cyfnod ymgeisio ar agor yn flynyddol ar gyfer Grantiau Cyfalaf. Bydd ail gyfle i ymgeisio am y Grantiau Cyfalaf yn ôl disgresiwn y Panel Asesu
- Efallai y bydd ail gyfnod ymgeisio ar gyfer Grantiau Cyfalaf ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol os bydd cyllid yn caniatáu hynny ac yn ôl disgresiwn y panel Asesu
- Grant Cyfalaf - Bydd uchafswm y grant cyfalaf sydd ar gael yn is na 50% o gost y prosiect neu’r swm sydd ei angen i ariannu diffyg ariannol y prosiect, yn amodol ar uchafswm o £10,000
- Grantiau Polisi - Ariennir grantiau polisi drwy Gronfa Eglwys Cymru (WCF). Yr uchafswm grant sydd ar gael yw:
|
£2,000 |
|
£500 yn flynyddol ar gyfer y 5 mlynedd gyntaf o gyhoeddi/£250 yn flynyddol wedi hynny |
|
£250 |
|
£250 |
|
£500 |
|
£500 |
Proses Ymgeisio
Cyn i chi gyflwyno eich cais, a fyddech cystal â chyfeirio at y Nodiadau Cyfarwyddyd.
I wneud cais am grant, defnyddiwch un o'r dolenni canlynol:
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gwybodaeth Gyswllt
Os bydd angen cymorth arnoch, a wnewch gysylltu â’r Tîm Grant Cymunedol ar 01970 633331 neu e-bostio grantcymunedol@ceredigion.gov.uk.