Skip to main content

Ceredigion County Council website

Bwrw golwg: Adfywio’r Promenâd

Sut olwg fydd arno? 

Dym argraff artist o'r promenâd wedi'i adfywio. Mwy o luniau i ddilyn. 

Pryd fydd y prosiect ar waith?

Dyma linell amser o gerrig milltir allweddol y prosiect:

  • Hydref 2024: Gwaith adeiladu yn dechrau
  • Hydref 2024 - Chwefror 2025: Teras Y Ro Fawr hyd at Gyffordd Tan-y-Cae
  • Ionawr 2025 – Haf 2025: Cyffordd Tan-y-Cae hyd at Heol y Wig
  • Tachwedd 2024 – Haf 2025: Gosod goleuadau stryd o’r Ro Fawr hyd at Heol y Wig. I’w gosod fesul cam yn dilyn y prif waith
  • Gaeaf 2024/25: Lanterni a bracedi golau’r stryd i’w ailosod o Graig-glais hyd at Heol y Wig
  • Gaeaf 2024/25: Gosod Pontydd Troed ger y Castell

Beth am barcio?

Wrth i’r gwaith ddechrau mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio meysydd parcio Talu ac Arddangos Aberystwyth a welir yma ac ystyried y dewisiadau o ran Tocynnau Tymor a welir yma.

Atebion Parcio at y dyfodol

Fel rhan o'r cynllun hirdymor bydd mwy o leoedd parcio ar gael mewn mannau eraill yn y dref. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn wrth i'r datblygiad fynd rhagddo.

Diweddariadau

 

14.11.2024 Mae’r gwaith ar y cyrbiau ac o ran lledu’r heol bron wedi'i gwblhau ar y Ro Fawr. Mae colofnau newydd y goleuadau stryd bellach wedi'u gosod a goleuadau LED dros dro wedi cael eu trosglwyddo o'r hen golofnau. Mae gwaith wedi dechrau ger The Hut ar gyffordd Tan y Cae i osod llinellau newydd wrth y cyrbiau a chael gwared ar yr ynys draffig, ac mae’r gwaith yn bwrw ymlaen yn dda diolch i’r tywydd ffafriol.

Rhoddwyd caniatâd gan CADW parthed yr Heneb Gofrestredig, ac mae modd nawr dyfarnu contract newydd ar gyfer dwy bompren y Castell. Bydd dyluniad y ddwy bompren newydd yn debyg iawn i’r pontydd pren presennol. Mae’r llinellau wrth gyrbiau cyffordd Tan y Cae / Y Ro Fawr ar eu newydd wedd a bellach ar waith, ac mae slabiau, goleuadau a sylfeini ar gyfer blychau’r planhigion i ddod ger y Ro Fawr. Hefyd mae’r darnau sy’n ymwthio i’r heol ar hyd y Ro Fawr ar fin cael eu cwblhau.

 

#
#
#
#
#
#

 

04.11.2024 Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n dda ar brosiect Promenâd Aberystwyth. Mae’r mynediad concrit i ramp yr RNLI gyferbyn â Ffordd y Cei wedi cael ei gwblhau. Mae’r gwaith draenio, y pibelli trydan, a’r sylfeini ar gyfer colofnau newydd y goleuadau stryd wedi dechrau. Mae’r cyrbiau ar hyd ymyl yr heol newydd yn mynd rhagddynt yn dda ac mae’r droedffordd rhwng Ffordd y Cei a’r Ro Fawr wedi’i pharatoi ar gyfer ei hadfer. Bydd y cyrbiau yn cael eu hintegreiddio yn y llwybrau presennol.
 
Mae’r gwaith o osod y palmant rhwng Ffordd y Cei a’r Ro Fawr yn agosáu at y diwedd ac mae’r promenâd lletach yn dod yn amlwg gan argoeli lle gwell ar y cyd ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae’r cyrbiau ar hyd y Ro Fawr yn parhau yn ôl yr amserlen ac mae’r gwaith o osod colofnau’r goleuadau stryd, ynghyd â bracedi addurniadol o Heol y Wig i Drwyn y Castell, wedi ei gwblhau. Rydym yn disgwyl am lanterni newydd ar gyfer y rhain a’r disgwyl yw y daw nhw’n hwyrach eleni. Hefyd bydd y gwaith ar y systemau draenio, y pibelli, a’r sylfeini ar gyfer y goleuadau stryd yn parhau drwy gydol yr wythnos.

 

#
#
#
#
#
#

 

16.10.24: Dechreuodd y gwaith ar Bromenâd Aberystwyth ar 9 Hydref 2024. Mae Tregaron Trading Services Ltd (TTS) wedi sefydlu cyfleusterau lles ac ardal storio ger Y Ro Fawr a Heol Minafon. Canolbwyntiodd y gwaith adeiladu cychwynnol ar osod cyrbau rhwng Stryd y Cei a Y Ro Fawr, ac mae amlinelliad y mannau parcio newydd i'w gweld erbyn hyn. Mae gwaith rheoli traffig a rhwystrau wedi cael eu gosod ar gyfer y gwelliannau sydd ar ddod i'r cyrb a'r droedffordd. Yr wythnos nesaf, bydd gwaith cyrb a throedffordd yn parhau, a bydd paratoadau ar gyfer gosod goleuadau stryd newydd yn dechrau.

 

#
#
#
#
#

Rhoddir diweddariadau rheolaidd ynglŷn â hynt y prosiect ar y dudalen hon.

Os hoffech gael eich hysbysu pan fydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru, anfonwch eich manylion cyswllt at PromAber@ceredigion.gov.uk i'w hychwanegu at ein rhestr bostio.