Adfywio Promenâd Aberystwyth – wedi’i ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
Beth yw’r prosiect yma?
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o roi’r diweddaraf i chi am hynt y gwaith o adfywio Promenâd Aberystwyth. Nod y fenter sylweddol hon, sy’n derbyn £10.8m gan Lywodraeth y DU, yw trawsnewid Promenâd Aberystwyth i fod yn lle mwy hygyrch, deniadol a chynaliadwy ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr.
Mae'r fenter adfywio gyfan yn cynnwys dau brosiect allweddol: adfywio Promenâd Aberystwyth ac ailddatblygu'r Hen Goleg. Er bod gan y naill brosiect ei ffocws penodol ‒ gwella mannau cyhoeddus a llwybrau teithio llesol ar hyd y promenâd, a thrawsnewid yr Hen Goleg yn ganolbwynt diwylliannol bywiog ‒ mae'r ddau yn gweithio gyda'i gilydd i wella apêl Aberystwyth fel lle i fyw, gweithio, astudio ac i ymweld â hi.
Beth fydd hyn yn ei gyflawni?
Adfywio Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth a Phromenâd Aberystwyth.
Dyma grynodeb o’r ddau brosiect allweddol
Prosiect yr Hen Goleg
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect hwn yn ategu ac yn hybu’r gwaith o drawsnewid yr Hen Goleg i fod yn ganolfan ddiwylliannol fywiog. Bydd hyn yn cynnwys ychwanegu llety newydd 4*, orielau a mannau arddangos i wella’r profiad i ymwelwyr.
I gael y diweddaraf am y prosiect, ewch i dudalen Prifysgol Aberystwyth ar yr Hen Goleg.
Prosiect Adfywio’r Promenâd
Gwneir gwelliannau ar hyd Promenâd y De, o amgylch yr Hen Harbwr ac ymlaen i Heol Minafon. Bydd hyn yn cynnig llwybrau cerdded a beicio mwy diogel a phleserus i breswylwyr ac ymwelwyr, ac yn uwchraddio Stryd y Brenin gan gynnwys gosod goleuadau newydd, ac yn gwella’r mynediad i dir y Castell a'r Hen Goleg. Disgwylir i brosiect Adfywio’r Promenâd gael ei gwblhau erbyn haf 2025.
I gael y diweddaraf am y prosiect, ewch i dudalen prosiect Adfywio’r Promenâd.