Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y Rhyngrwyd Pethau

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn creu rhwydwaith LoRaWAN ar draws y Sir er mwyn cyflymu'r gweithgarwch arloesol gyda'r Rhyngrwyd Pethau yn y rhanbarth.

Mae LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang o Bell) yn Rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel (LPWAN) a luniwyd ar gyfer y Rhyngrwyd Pethau (IoT). Fe'i cynlluniwyd er mwyn caniatáu i ddyfeisiau a synwyryddion pŵer isel gyfathrebu gyda chymwysiadau sy'n gysylltiedig â'r Rhyngrwyd dros gysylltiadau diwifr o bell.

Nid yw'r synwyryddion neu'r dyfeisiau hyn yn defnyddio fawr iawn o bŵer ac maent yn gweithio oddi ar fatris neu ddyfeisiau sy'n cynhyrchu ynni (solar fel arfer), sy'n golygu y gallant fod yn eu lle am hyd at 10 mlynedd heb yr angen i'w disodli. Gellir defnyddio LoRaWan mewn meysydd megis cludiant a logisteg, adeiladau clyfar, 'Trefi Clyfar' ac amaethyddiaeth.

Lorawan

Lorawan Network Servers (Saesneg yn unig)

Mae synwyryddion yn cysylltu ac yn cyfleu gwybodaeth/ data i'r Pyrth, ac yna, caiff y rhain eu cysylltu â'r rhyngrwyd, yna bydd modd i unigolion droi at y wybodaeth hon o'r synwyryddion o bell, gan ddefnyddio meddalwedd ddiogel ar ffôn, llechen neu gliniadur.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gosod y rhwydwaith cyhoeddus am ddim mwyaf yng Nghymru, ac mae'r rhwydwaith eisoes yn cael ei ddefnyddio ac yn gwasanaethu busnesau, unigolion preifat a'r sector cyhoeddus. Gallant ddefnyddio synwyryddion y Rhyngrwyd Pethau i synhwyro, monitro, rheoli ac adrodd.

Gall hyn gynnwys defnydd megis:

  • Synhwyro tymheredd
  • Olrhain asedau
  • Monitro ansawdd yr aer/ llygredd
  • Monitro ansawdd dŵr/ llygredd
  • Cyfrif pobl mewn Trefi
  • Monitro mwynau mewn pridd
  • Symudiadau traffig

IOT USe Case

How IoT Smart Farming Improves Revenue For Farmers (Saesneg yn unig)

Gallwch weld maint y rhwydwaith hwn wrth iddo sicrhau cynnydd trwy gyfrwng offeryn mapio The Things Network - TTN Mapper

Os hoffech ddysgu mwy am rwydwaith LoRaWAN Cyngor Sir Ceredigion a thrafod y posibilrwydd o fanteisio ar borth er mwyn cynorthwyo anghenion eich sefydliad neu'ch busnes, cysylltwch â digidol@ceredigion.gov.uk.

Gwybodaeth a Dysgu Pellach

Hyfforddiant LoRaWAN ar gyfer Busnesau Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu cyfres o fideos rhagarweiniol i ddangos posibiliadau LoRaWAN a rhyngrwyd pethau i Fusnesau Ceredigion

Academi The Things: Hanfodion LoRaWAN

Cwrs ar-lein sy'n cynnig popeth y bydd angen i chi ei wybod er mwyn cychwyn arni gyda LoRaWAN

Cofrestrwch ar y wefan Udemy (Saesneg yn unig).

The Things Network

Cyfle i ddysgu popeth am LoRaWAN a The Things Network (Saesneg yn unig).

Alliot Technologies

Cyfres addysgol a ddatblygwyd gan Dechnolegau Alliot (Saesneg yn unig) er mwyn galluogi dealltwriaeth o hanfodion technolegau LPWAN a sut y gallant gynorthwyo.

Achosion Defnydd

Mae'r dolenni canlynol yn cynnwys achosion defnydd ynghylch y defnydd a wneir o dechnoleg LoRaWAN (Saesneg yn unig)