Sgiliau Digidol
Mae technoleg ddigidol yn newid ein bywydau, ac mae pandemig COVID-19 wedi cyflymu'r newid hwn yn sylweddol. Bellach, mae technoleg ddigidol yn rhan o'n bywydau bob dydd ac mae gallu manteisio ar wasanaethau ar-lein wedi dod yn sgìl pwysig.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dymuno cynorthwyo pobl i feithrin yr hyder digidol i droi at y rhyngrwyd a mwynhau'r manteision niferus a gynigir mewn byd digidol. Rydym yn dymuno i bawb feithrin sgiliau digidol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt deimlo'n hyderus wrth fanteisio ar yr offerynnau a'r technolegau o'u hamgylch.
Sgiliau Digidol yn y Cartref
Mae Addysg Gymunedol Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Bro Dysgu nod yw darparu cyfleoedd dysgu i drigolion Ceredigion yn eu cymunedau fydd yn eu hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster neu wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle.
Mae dosbarthiadau dechreuwyr am ddim ar gael yn ogystal â benthyca offer i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau.
Nod Cymunedau Digidol Cymru yw lleihau allgáu digidol yng Nghymru, lle y mae gan bawb y sgiliau, y cyfle a'r cymhelliant i fod yn ddefnyddwyr technoleg ddigidol hyderus.
Cyrsiau am ddim er mwyn eich peri i deimlo'n fwy hyderus ar-lein a meithrin eich sgiliau digidol. O ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur i weithgareddau a gemau er mwyn helpu plant i ddysgu sgiliau newydd.
Cyrsiau am ddim er mwyn peri i chi deimlo'n fwy hyderus ar-lein a meithrin eich sgiliau digidol. O gael swydd i lansio busnes newydd. Ceir amrediad o gyrsiau ac adnoddau er mwyn eich helpu i roi cychwyn arni.
Sgiliau Digidol ar gyfer Yfory (Saesneg yn unig)
Cyrsiau digidol a rhifedd am ddim er mwyn meithrin eich sgiliau i gynorthwyo bywyd bob dydd a chyflogaeth.
Y Pecyn Cymorth Sgiliau (Saesneg yn unig)
Mae Barclays wedi creu cynnwys er mwyn helpu cwsmeriaid i feistroli bancio a chymdeithasu ar-lein, a dysgu sut i fanteisio ar wasanaethau teledu a chyfryngau cymdeithasol ar-lein mewn ffordd effeithiol. Yn ogystal, maent yn cynnig cyngor am gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, cyfrineiriau a chwarae gemau ar-lein.
Sgiliau Digidol Barclays (Saesneg yn unig)
Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes
Mae technoleg ddigidol wedi gweddnewid y ffordd yr ydym yn gweithio – ond mae nifer o fusnesau llai nad ydynt yn meddu ar sgiliau digidol yn cael eu gadael ar ôl. Yn y gweithle modern, gwerthfawrogir sgiliau digidol yn fawr; yn y dyfodol, bydd sgiliau digidol yn hanfodol.
Dyma rai o'r rhesymau dros goleddu sgiliau digidol yn y gweithle:
Gyda'r hyfforddiant cywir, gall cyflogeion ddefnyddio technoleg ddigidol er mwyn bod yn fwy cynhyrchiol yn y gwaith. Er enghraifft, gellir creu, storio a throi at ddogfennau digidol mewn ffordd fwy effeithlon na rhai argraffedig, ond dim ond os bydd cyflogeion yn gwybod sut i ddod o hyd iddynt, eu defnyddio a'u rhannu mewn ffordd hyderus. Os byddant yn cael anhawster gyda hyn, bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y defnyddir amser cyflogeion yn y gweithle – a bydd hyn yn arwain at ganlyniadau ar gyfer cynhyrchiant y busnes.
Yn ôl Microsoft (Seaseneg yn unig), dros y ddau ddegawd nesaf, bydd gofyn cael rhyw fath o sgiliau digidol er mwyn gallu cyflawni 90% o swyddi, a bydd mwy o alw am sgiliau technegol er mwyn cynnig mantais gystadleuol i fusnesau yn eu marchnad. Trwy fuddsoddi yn yr hyfforddiant cywir ar gyfer eich cyflogeion, maent yn fwy tebygol o sicrhau perfformiad gwell na'u cymheiriaid mewn sefydliadau cystadleuol – gan helpu eich busnes i gadw un cam ar y blaen i'r gystadleuaeth.
Bydd datblygiadau technolegol yn parhau i gynnig ffyrdd newydd o weithio. Bydd busnesau sy'n coleddu'r newidiadau hynny yn manteisio ar weithlu bodlon iawn, sy'n awyddus i gydweithio, cyfathrebu neu ddefnyddio offerynnau newydd sy'n caniatáu iddynt gyflawni eu swyddi mewn ffordd fwy effeithlon. Gallai hyn gynnwys mynediad gwell i drefniadau gweithio o bell, meddalwedd berthnasol a chymwysiadau cwmwl neu ehangu argaeledd hyfforddiant ar-lein.
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bellach yn cydnabod yr angen am bresenoldeb ar-lein cryf er mwyn helpu i gynyddu refeniw. Mae ffurfiau gwerthu a marchnata traddodiadol yn dyddio wrth i ddefnyddwyr droi at sianelau digidol er mwyn prynu'r eitem honno yn y diwedd. Bellach, mae'r rhan fwyaf o brynwyr yn ystyried cynnwys ar-lein megis erthyglau blog neu fideos byr wrth wneud eu penderfyniadau prynu terfynol. Os yw busnesau yn gobeithio cynyddu refeniw, bydd angen iddynt fod ble y mae eu cwsmeriaid, gan ddefnyddio amrediad o sgiliau digidol er mwyn ymgysylltu, perswadio ac ysgogi'r galw trwy'r sianelau ar-lein y maent yn eu ffafrio.
Bellach, mae defnyddwyr yn treulio mwy o amser ar sianelau digidol a cheir cryn alw am brofiad ar-lein gwell. Mae angen i fusnesau ymateb i ddisgwyliadau sy'n newid, gan ymgysylltu gyda'u cwsmeriaid a meithrin perthnasoedd trwy gyfrwng ystod amrywiol o sianelau – gallai'r rhain gynnwys e-bost, cyfryngau cymdeithasol, apiau symudol a mwy. Mae'n hanfodol bod cyflogeion yn meddu ar y sgiliau cywir a'r foeseg gywir ar y we er mwyn sicrhau bod y profiad ar-lein i gwsmeriaid yn un cadarnhaol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau digidol wrth gynorthwyo busnesau'r Sir a pharhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang er mwyn sicrhau twf economaidd, cydnerthedd a lles. Rydym yn dymuno cynorthwyo busnesau i gyflymu'r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol er mwyn gweithio mewn ffordd sy'n fwy clyfar ac ysgogi arloesedd, gan sicrhau bod busnesau lleol yn y sefyllfa orau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd yn y dyfodol.
Ceir nifer o adnoddau a chymhorthion er mwyn cynorthwyo eich busnes a'ch cyflogeion i goleddu technoleg ddigidol er mwyn sicrhau'r manteision a restrir uchod.
Os ydych yn dymuno symud ar-lein, sicrhau bod y 'busnes fel arfer' newydd yn llwyddiannus neu gynnal presenoldeb brand yn lleol ar gyfer yr adeg pan fydd pethau yn dychwelyd i'r arfer, gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gynorthwyo i roi technoleg ddigidol wrth wraidd eich busnes a'ch helpu i gynyddu gwerthiant gymaint ag y bo modd trwy ei raglenni a'i gyrsiau am ddim.
Mae BT wedi datblygu Cyfleuster Archwilio Iechyd Digidol er mwyn cynorthwyo busnesau i werthuso pa mor dda y maent yn defnyddio TG a thechnoleg er mwyn cyflawni eu hamcanion. Yn ogystal, mae'n darparu cymorth ynghylch sut y dylai busnesau addasu ac esblygu er mwyn gwireddu eu holl botensial.
Cyfleuster Archwilio Iechyd Digidol BT (Saesneg yn unig)
Mae Go Connect yn sefydliad Ieuenctid a Chymunedol sy'n arbenigo mewn hyfforddiant Menter a Chyflogadwyedd. Maent yn credu mewn sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb er mwyn i bawb allu manteisio ar gyfleoedd unigryw a chyffrous i nodi eu huchelgais a gwireddu eu holl botensial.
Go Connect Wales (Saesneg yn unig)
Cyrsiau am ddim er mwyn eich galluogi i deimlo'n fwy hyderus ar-lein a meithrin eich sgiliau digidol er mwyn gwella'ch busnes. Ceir amrediad o gyrsiau ac adnoddau er mwyn helpu i sicrhau bod eich busnes yn llwyddiant.
Sgiliau Digidol ar gyfer Yfory (Saesneg yn unig)
Mae Digital Boost yn helpu elusennau a busnesau bychain i sicrhau'r sgiliau hanfodol y mae eu hangen arnynt. Mae Digital Boost yn darparu gwaith mentora, gweithdai, cyrsiau, a chynnwys am ddim er mwyn eich helpu i ddeall digidol yn well.
Digital Boost (Saesneg yn unig)
Gwasanaeth Busnes Cymru sy'n cynnig porth i chi archwilio pa raglenni hyfforddiant a sgiliau sydd ar gael yn ein hardal.
Cyrsiau digidol a rhifedd am ddim er mwyn meithrin eich sgiliau i gynorthwyo bywyd bob dydd a chyflogaeth.
Y Pecyn Cymorth Sgiliau (Saesneg yn unig)
Cyrsiau hyfforddiant a gynlluniwyd i feithrin eich hyder a helpu eich busnes i ffynnu. Maent yn darparu offerynnau er mwyn sicrhau bod eich busnes yn llwyddo, gwella eich sgiliau cyfweld a chynorthwyo datblygiad gyrfa trwy ddefnyddio sgiliau digidol.
Garej Digidol Google (Saesneg yn Unig)